Ysbrydoli newid i gefnogi dyfodol cynaliadwy

Polisi Preifatrwydd

Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn a pharchu eich preifatrwydd.

Mae'r Polisi hwn yn esbonio pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth bersonol am bobl sy'n ymweld
â'n gwefan, sut rydym yn ei defnyddio, yr amodau y gallwn ei datgelu i eraill a sut rydym yn ei chadw'n
ddiogel.

Efallai y byddwn yn newid y Polisi hwn o bryd i'w gilydd felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i
sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Gellir gweld y dyddiad adolygu diweddaraf ar
waelod y ddogfen hon. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi'n cytuno i fod yn rhwym i’r Polisi hwn.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau ynghylch y Polisi hwn a'n harferion preifatrwydd trwy e-bost at
helo@ytygwyrdd.cymru neu trwy ysgrifennu at Y Tŷ Gwyrdd, Dinbych.

Pwy ydyn ni?

Crëwyd Y Tŷ Gwyrdd i gynnig lle ysbrydoledig, cynhwysol a chroesawgar i'r gymuned leol ddod at ei
gilydd i gymdeithasu, siopa'n lleol, lleihau effaith amgylcheddol, cynyddu lles, darparu lleoliad ar gyfer
cynnal gweithgareddau cymunedol hwyliog sy'n hyrwyddo lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, a
chynnwys celf a chrefft.

Sut ydyn ni'n casglu gwybodaeth gennych chi?

Rydym yn cael gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwefan, er enghraifft, pan
fyddwch chi'n defnyddio'r ffurflen gyswllt. Rydyn ni'n defnyddio meddalwedd Google Analyticsi gasglu
gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan. Mae'r data'n ddienw cyn ei ddefnyddio ar
gyfer prosesu dadansoddeg.

Pa fath o wybodaeth a gesglir gennych?

Gallai'r wybodaeth bersonol a gasglwn gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad Protocol
Rhyngrwyd (IP), a gwybodaeth ynghylch pa dudalennau sy'n cael eu defnyddio a phryd.

Sut mae'ch gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

Mae'r wybodaeth yn ein helpu i ddeall sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio ac i sicrhau bod gennych
y profiad defnyddiwr gorau posibl. Mae hefyd yn ein helpu i wneud gwelliannau i'r wefan.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'ch gwybodaeth i:

Mae'r wybodaeth yn ein helpu i ddeall sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio ac i sicrhau eich bod yn
cael y profiad defnyddiwr gorau posibl. Mae hefyd yn ein helpu i wneud gwelliannau i'r wefan.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'ch gwybodaeth i:

  • anfon gohebiaeth yr ydych wedi gofyn amdani atoch ac a allai fod o ddiddordeb i chi er enghraifft
    cylchlythyrau, diweddariadau ar ddigwyddiadau, gweithdai a chynhyrchion newydd
  • gall y rhain gynnwys gwybodaeth am eich archeb

Rydym yn adolygu ein cyfnodau cadw ar gyfer gwybodaeth bersonol yn rheolaidd. Byddwn yn cadw
eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau cyhyd â bod angen ar gyfer y gweithgaredd perthnasol.

Pwy sydd â mynediad i'ch gwybodaeth?

Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhentu'ch gwybodaeth i drydydd partïon. Ni fyddwn yn rhannu eich
gwybodaeth gyda thrydydd partïon at ddibenion marchnata. Byddwn yn rhannu eich data os bydd y
gyfraith yn mynnu i ni wneud, er enghraifft gorchymyn llys neu i atal twyll neu droseddau eraill.

Eich dewisiadau

Dim ond i ateb eich e-bost gyda’r wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani y byddwn yn defnyddio'r
wybodaeth a ddarparwyd gennych trwy ein ffurflen gyswllt neu siop.

Fodd bynnag, pe byddech yn dymuno tynnu eich manylion o'n cronfa ddata ar unrhyw adeg, gallwch
wneud hyn trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion ar ein tudalen gyswllt.
Sut y gallwch gael mynediad i’ch gwybodaeth a’i diweddaru

Mae cywirdeb eich gwybodaeth yn bwysig i ni. Os byddwch chi'n newid eich cyfeiriad e-bost, neu os
oes unrhyw ran o'r wybodaeth arall sydd gennym yn anghywir neu'n hen, anfonwch e-bost atom: helo@ytygwyrdd.cymru.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, sut caiff yr wybodaeth
honno ei phrosesu a bod unrhyw wallau yn eich data personol yn cael eu cywiro ar unwaith. Gallwch
hefyd ofyn i'ch data personol gael ei ddileu os nad oes mwyach cyfiawnhad drosto. Gallwch
wrthwynebu sut mae'ch data personol yn cael ei brosesu a gofyn i’r data personol gael ei gyfyngu i
amgylchiadau penodol yn unig.

Rhagofalon diogelwch i amddiffyn colli, camddefnyddio neu newid eich gwybodaeth

Pan rowch wybodaeth bersonol inni, rydym yn cymryd camau i sicrhau ei bod yn cael ei thrin yn
ddiogel. Caiff manylion nad ydynt yn sensitif (eich cyfeiriad e-bost ac ati) eu trosglwyddo’n arferol dros
y Rhyngrwyd, ac ni ellir gwarantu bod hyn byth yn 100% ddiogel. O ganlyniad, er i ni geisio amddiffyn
eich gwybodaeth bersonol, ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei
throsglwyddo i ni, ac rydych chi'n gwneud hynny ar eich risg eich hun.
Ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau ei ddiogelwch ar fy
systemau.

Proffilio

Mae rhai gwefannau yn dadansoddi eich gwybodaeth bersonol i greu proffil o'ch diddordebau
a dewisiadau fel y gallant gysylltu â chi gyda gwybodaeth sy'n berthnasol i chi. Nid ydym yn defnyddio
proffilio.

Defnyddio 'cwcis'

Fel llawer o wefannau eraill, mae gwefan Y Tŷ Gwyrdd yn defnyddio cwcis.
Mae 'cwcis' yn ddarnau bach o wybodaeth a anfonir gan sefydliad i'ch cyfrifiadur a'u storio ar eich disg
galed i ganiatáu i'r wefan honno eich adnabod pan ymwelwch. Maent yn casglu data ystadegol am
eich gweithredoedd a'ch patrymau pori ac nid ydynt yn gallu eich adnabod fel unigolyn. Er enghraifft,
rydym yn defnyddio cwcis i storio eich dewis gwlad. Mae hyn yn ein helpu i wella ein gwefan a darparu
gwasanaeth gwell, mwy personol.
Mae'n bosibl diffodd cwcis trwy osod hoffterau eich porwr. Am fwy o wybodaeth ar sut i ddiffodd
cwcis ar eich cyfrifiadur, ewch i'n polisi cwcis llawn.
Gall diffodd cwcis arwain at golli ymarferoldeb wrth ddefnyddio ein gwefan.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch data

Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol mewn perthynas â'n budd cyfreithlon yn
uniondeb a diogelwch y wefan a budd cyfreithlon ein defnyddwyr. Eich cydsyniad yw'r sylfaen
gyfreithiol ar gyfer prosesu data dienw ar gyfer Google Analytics. Y sail gyfreithiol ar gyfer casglu
unrhyw ddata personol arall yw ei bod yn angenrheidiol i gyflawni tasg er eich budd.

Dolenni i wefannau eraill

Efallai y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill sy'n cael eu rhedeg gan sefydliadau
eraill. Mae'r polisi'n preifatrwydd hwn yn berthnasol i'r wefan hon yn unig ‚felly rydym yn eich annog
i ddarllen datganiadau preifatrwydd y gwefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw. Ni allwn fod yn
gyfrifol am bolisïau ac arferion preifatrwydd gwefannau eraill hyd yn oed os ydych chi'n mynd iddynt
gan ddefnyddio dolenni o'n gwefan.
Yn ogystal, os gwnaethoch chi gysylltu â'r wefan hon o safle trydydd parti, ni allwn fod yn gyfrifol am
bolisïau ac arferion preifatrwydd perchnogion a gweithredwyr y safle trydydd parti hwnnw ac rydym
yn argymell eich bod yn gwirio polisi'r safle trydydd parti hwnnw.

16 neu iau

Rydym yn awyddus i amddiffyn preifatrwydd plant 16 oed neu iau. Os ydych chi'n 16 oed
neu iau‚ mynnwch ganiatâd eich rhiant / gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch chi
darparu gwybodaeth bersonol i ni.

Adolygu’r Polisi hwn

Rydym yn adolygu’r Polisi hwn yn rheolaidd. Diweddarwyd y Polisi hwn ddiwethaf ym mis Gorffennaf
2020.

linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram